

~~Ymunwch â ni am ddiwrnod cyffrous yn archwilio inciau a llifynnau naturiol.
Byddwch yn cael cyfle i wneud y canlynol:
Llifo â glaslys, a oedd yn cael ei dyfu a'i ddefnyddio ym Mhrydain am filoedd o flynyddoedd
Creu dyluniad ar arddull shibori trwy glymu a phlygu lliain
Dysgu sut i wneud inciau o gynhwysion bob dydd megis tyrmerig ac aeron
Creu eich llyfr sampl eich hun wedi'i rwymo'n syml a lluniadu ynddo
Arbrofi â phrintio cyswllt gan drosglwyddo siapiau a lliwiau o ddail a blodau yn uniongyrchol ar bapur.
Dylunydd tecstilau yw Susan Martin a gaiff ei hysbrydoli gan y dirwedd a chan botensial planhigion. Mae Susan yn arbenigo mewn llifo naturiol gan ddefnyddio planhigion a gynaeafwyd o'i gardd ac o goedwigoedd lleol.
~~Join us for an exciting day exploring natural inks and dyes.
You will have an opportunity to:
Dye with woad, grown and used in Britain for 1000’s of years
Create a shibori style design by tying and folding cloth
Learn how to make inks from everyday ingredients like turmeric and berries
Make and draw in your own simply bound sample book
Experiment with contact printing transferring shapes and colours from leaves and flowers directly onto paper
Susan Martin is a textile designer inspired by the landscape and the potential of plants. Susan specialises in natural dyeing with plants harvested from her garden and local woodlands.