

Magwyd Natalia Dias ym Mhortiwgal lle’r oedd y tu mewn i eglwysi yn ymdebygu i oriel gelf. Mae’r ffurfiau, y lliwiau, yr emosiynau a’r symboliaeth wastad wedi bod yn ddylanwad sylfaenol. Fel delweddau cyn-Raffaelaidd a llawer o fytholeg Geltaidd a Groegaidd, mae cerfluniau clasurol Natalia yn canolbwyntio ar y ffigwr benywaidd ynghyd â natur. Mae hi’n edrych ar y fenyw fel rhyfelwr, ffigwr sy’n cyfleu pŵer a hyder, sy’n addasu i amgylchedd sydd bob amser mewn cyflwr o lanw a thrai, ac yn trawsnewid rhwng dynoliaeth, planhigion a bwystfilod.
Natalia Dias grew up in Portugal where the church interior was a substitution for an art gallery. The forms, colours, emotions and symbolism have always been an underlying influence. Like pre-Raphaelite imagery and much of Greek and Celtic mythology, Natalia’s classically rooted sculptures centre on the female figure combined with nature. She explores the female as a warrior, a figure exuding power and confidence, adapting to an environment in constant flux, metamorphosing between human, plant and beast.