

Mae Engage, y Gymdeithas Genedlaethol er Addysg mewn Orielau, yn dymuno penodi ymddiriedolwyr newydd i ymuno â’n Bwrdd sefydledig ac ymroddgar ym mis Tachwedd 2019. Mae’r Bwrdd, sy’n cyfarfod bob chwarter, yn cynnwys 15 o aelodau.
Hoffem dderbyn ceisiadau gan unigolion (gan gynnwys artistiaid gweithredol) sydd â gwybodaeth ac arbenigedd ym maes addysg celfyddydau gweledol ac addysg orielau. Yn benodol, rydym ni’n dymuno cael ceisiadau gan gydweithwyr yng Nghymru, yr Alban neu un o ranbarthau Lloegr (y tu allan i Lundain).
I gael manylion llawn ar sut i ymgeisio, ewch i’n gwefan: https://engage.org/happenings/ymddiriedolwyr-engage/
Engage
Engage yw’r brif gymdeithas broffesiynol ym maes addysg orielau gydag o ddeutu 900 o aelodau yn y DU a thramor. Mae Engage yn elusen gofrestredig ac yn gwmni cyfyngedig drwy warant, yn Sefydliad Portffolio Cenedlaethol Cyngor Celfyddydau Lloegr ac yn derbyn cyllid gan Creative Scotland, Cyngor Celfyddydau Cymru a nifer o ymddiriedolaethau a sefydliadau.
Sut i Ymgeisio
Os hoffech chi drafod y rôl hon yn gyfrinachol, ebostiwch y Cyfarwyddwr, Jane Sillis: jane.sillis@engage.org.
I ymgeisio, anfonwch CV a llythyr eglurhaol yn trafod manyleb yr unigolyn i Sayak Mukherjee, Rheolwr Gweithrediadau operations@engage.org erbyn dydd Gwener 16 Awst 2019, 10:00 am
Gwahoddir ymgeiswyr ar y rhestr fer i gyfarfod â chynrychiolwyr o’r Bwrdd yn ail hanner mis Medi neu ddechrau mis Hydref.